Eifion WynDAVIESMedi 20fed 2023, hunodd yn dawel yn ei gartref Henlli, 32 Pant Lodge, Llanfairpwll yng nghwmni ei deulu yn 84 mlwydd oed (gynt o Llangoed). Priod cariadus Janet am drost 60 mlynedd, tad gofalus Dewi, Menai ac Arwel a'i partneri, taid balch Natasha, Dominic, Martin, Michelle a Megan, hen daid Daniel, Ada, Freddie, Jack a Callie a cefnder annwyl Gwilym. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Iau Medi 28ain, gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 y bore. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Eifion yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng a Pancreatic Cancer Action a Marie Curie drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Tel: 01248 723111.
Keep me informed of updates